|
|
| |
|
|
| |
Ers ei
sefydliad ym 1988, mae Derwen wedi llwyddo i ddod â thîm
o olygyddion ynghyd sydd wedi ein cynorthwyo ni i fagu enw digymar
o ran dibynoldeb, creadigrwydd a phroffesiynoldeb.
Roedd aelodau gwreiddiol ein tîm yn arfer gweithio i'r
BBC, ITV neu ar eu liwt eu hunain, ond rydym wedi recriwtio
golygyddion drwy bolisi blaengar o ddyrchafu mewnol yn ystod
y blynyddoedd diwethaf a chymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddi
cenedlaethol cymeradwy.
Beth bynnag yw eu cefndir, mae pob un o'n golygyddion yn gwbl
ymroddedig i'ch prosiect. Os ydych gyda ni am ddiwrnod, wythnos
neu am nifer o fisoedd, rydym yn cynnig yr amrediad mwyaf eang
i'n cleientiaid -
O ddramâu llwyddiannus i chwaraeon byw; y Tri Thenor i
U2; rhaglenni dogfen i Late Night Poker.
Rydym yn hyderus bod ein henw da yn y diwydiant yn seiliedig
ar y ffaith bod hen gleientiaid a chleientiaid newydd yn mwynhau'r
profiad o olygu yn Derwen ac y gallwn gyfrannu tuag at ansawdd
technegol ac artistig eich rhaglen.
|
|
| |
|
|
|
|
|
|
|
|

Llwyddiant pellach i Derwen

Young Dracula wedi ei enwebu am Bafta!

BARCUD DERWEN - 9fed ym Mhrydain!

|
|
 |
|